SL(6)121 - Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Ar 16 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gynlluniau ar gyfer dysgwyr ysgol yn dychwelyd ym mis Ionawr 2022. Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys dyrannu dau ddiwrnod cynllunio ar gyfer ysgolion ar ddechrau'r tymor ysgol newydd ym mis Ionawr 2022.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 drwy ychwanegu rheoliad 7 newydd i ganiatáu i amser yn ystod y tymor gael ei neilltuo ar gyfer diwrnodau cynllunio er mwyn i ysgolion asesu capasiti staffio a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr. Effaith y rheoliad 7 newydd yw caniatáu i hyd at bedair sesiwn (dau ddiwrnod) gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol os oeddent wedi eu neilltuo ar gyfer paratoi ysgolion a gwaith cynllunio gan athrawon o ganlyniad i achosion a throsglwyddiad y coronafeirws yn ystod blwyddyn ysgol 2021-2022. Rhaid i’r sesiynau hyn gael eu cynnal ar ddau ddiwrnod cyntaf ail dymor (gwanwyn) blwyddyn ysgol 2021-22.

Mae gwneud y Rheoliadau diwygio hyn yn golygu y bydd ysgolion yn gallu bodloni'r nifer ofynnol o sesiynau yn ystod blwyddyn ysgol 2021-22 fel y nodir yn Rheoliadau 2003. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn helpu i sicrhau bod gan ysgolion gynlluniau cadarn ar waith pe bai tarfu ar ddysgu ar y safle dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 21 Rhagfyr 2021. Yn benodol, rydym yn nodi'r hyn y mae'r llythyr yn ei ddweud ynghylch torri'r rheol:

"Pwrpas yr offeryn yw diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol)(Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) i ganiatáu’r deuddydd cyntaf ar ddechrau tymor y gwanwyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-22 i gael eu dyrannu ar gyfer diwrnodau cynllunio er mwyn i ysgolion asesu capasiti staffio a rhoi’r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr. Bydd hefyd yn sicrhau bod ganddynt gynlluniau cadarn pe bai tarfu ar ddysgu ar y safle dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Heb y Rheoliadau hyn ar waith erbyn dechrau tymor y gwanwyn 2021-22, ni fydd ysgolion yn cwrdd â'r nifer ofynnol o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-22 fel y nodir yn Rheoliadau 2003.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chafwyd ymgynghoriad llawn cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud, ond gwnaeth Llywodraeth Cymru ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys undebau llafur a Chomisiynydd Plant Cymru, yn y cyfnod cyn i'r Rheoliadau gael eu gwneud. Yn benodol, nodwn y canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

"Roedd yr adborth ar y diwrnodau cynllunio yn gyffredinol bositif, ac roedd awdurdodau lleol o’r farn y byddai adolygu cynlluniau wrth gefn a lefelau staffio ar y pwynt hynny – gan blethu hefyd y dealltwriaeth ddiweddaraf ar yr amrywiolyn Omicron – yn help i leihau tarfu yn y tymor hirach.

Gan fod y newidiadau’n berthnasol i’r dychweliad ym mis Ionawr 2022, nid oedd digon o amser i gynnal ymgynghoriad llawn. Nid oedd peidio â gwneud y Rheoliadau hyn yn opsiwn ymarferol gan bod cydnabyddiaeth bod ysgolion angen amser ar ddechrau’r tymor i adolygu a diwygio trefniadau, gan adeiladu’r dealltwriaeth ddiweddaraf o lefelau staffio bryd hynny i’r trefniadau gweithredol.”

 

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn fod Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i gynnal mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu y gallai fod rhai costau ariannol i'r sector cyhoeddus o ganlyniad i wneud y Rheoliadau hyn.

"Efallai y bydd yn rhaid i ysgolion sy'n dewis defnyddio deuddydd cyntaf tymor y gwanwyn 2021-22 aildrefnu digwyddiadau a hyfforddiant a drefnwyd ar gyfer y dyddiau hyn.  Efallai y bydd costau hefyd o ganlyniad i’r wneud yr aildrefniadau angenrheidiol ar gyfer trafnidiaeth ysgol, darpariaeth arlwyo a gwasanaethau cefnogi eraill. Efallai y bydd costau gofal plant ychwanegol i deuluoedd hefyd os bydd y diwrnodau cynllunio hyn yn arwain at ddysgwyr yn dychwelyd i'r ysgol yn hwyrach na'r disgwyl. Mae’r graddau y bydd teuluoedd yn ysgwyddo cost gofal plant ychwanegol yn debygol o ddeillio o amgylchiadau a dewisiadau unigol.   Bydd rhai teuluoedd yn defnyddio aelodau teulu, bydd eraill yn cymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith neu (lle bo hynny'n bosibl) yn gweithio gartref. Lle mae angen gofal plant â thâl, mae'r gost yn debygol o fod oddeutu £30-40 y plentyn am y dydd."

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ac Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb hefyd mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gydymffurfio â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 drwy gynnal asesiadau effaith a sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau statudol, o ran darparu'r nifer ofynnol o sesiynau ysgol a darparu gofal plant digonol. Nodwn y paragraffau canlynol o'r Memorandwm Esboniadol sy'n ymwneud â'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb:

"Gallai egwyl hanner Nadolig a blwyddyn newydd estynedig effeithio'n andwyol ar grwpiau difreintiedig a’r rhai sy’n agored i niwed. Gall teuluoedd sy'n byw mewn tlodi neu'r rheini y mae eu hincwm yn ddibynnol ar yr oriau gwirioneddol a weithiwyd ei chael hi'n anodd darparu gofal plant am y dyddiau ychwanegol hynny.

Mae rhoi gwybod i awdurdodau lleol mor fuan â phosib am y newidiadau hyn wedi rhoi amser ychwanegol i rieni wneud cynlluniau ar gyfer y deuddydd hyn, ac i rai bydd yn golygu bod plant yn dychwelyd i’r ysgol fel a fwriadwyd os yw diwrnodau HMS yn cael eu haildrefnu ar gyfer dyddiadau eraill yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol. Rydym hefyd wedi hysbysu awdurdodau lleol ac ysgolion y dylent ar yr ail ddiwrnod ystyried pa ddarpariaeth y gallai fod angen ei rhoi arwaith ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol hefyd roi sylw i anghenion ehangach eu cymuned ac effaith unrhyw benderfyniadau i beidio â rhoi darpariaeth o'r fath ar waith."

Mae'r Memorandwm Esboniadol hefyd yn cydnabod hawl plentyn i addysg a sefydlwyd yn erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Nodwn y paragraff a ganlyn sy'n ymwneud â'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant.

"Gellid dadlau y gallai colli deuddydd o ddysgu mewn rhai ysgolion gael effaith niweidiol ar ddysgwyr. Fodd bynnag, nod y diwrnodau hyn yw i leihau ar y tarfu ar ddysgu ac addysgu yn y tymor hirach ac fe’i ystyried yn gam pwyllog i adolygu a pharatoi ar gyfer y tymor i ddod."

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu y bydd yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a’r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Ionawr 2022